Geraint Griffiths

 

HAVANA

| Datganiad i'r wasg | 'Nol i'r siop |

 

Realaudio

Cliciwch am

bwt o'r

gan

 

1.   Havana
2.   O 'Ma Nawr
3.   Meddwl Am Hedy Lamarr
4.   Siop Star
5.   Jiwbili
6.   Ar Y Mynydd
7.   Cana I Mi Nawr
8.   Gof Cwrt
9.   'Nol Atat Ti
10. Lawr I Rufain
11. Hen Wlad

 

£9.99 (cynnwys pris postio) 

Havana

DYG CD072

 

 

Buy our tracks from indiestore.com

Neu lawr lwytho wrth 7digital am £7.99

'Nol i'r siop

DATGANIAD I'R WASG

HAVANA gan Geraint Griffiths.          Diwedd Y Gwt  DYG CD072

 Dyma record newydd sbon wrth Geraint Griffiths, y degfed casgliad o’i ganeuon. Caneuon roc sydd ar y CD yma, a’r gitarau trydan yn amlwg trwyddi. Ers ei ddyddiau gydag Eliffant, Injaroc ac Edward H Dafis, cerddoriaeth roc yw cariad cyntaf y cerddor profiadol o Gaerfyrddin.

Mae caneuon HAVANA yn croesi’r byd ac yn ein tywys o’r Caribî ac ynysoedd y Bahamas a Cuba, lawr at Venezuela. Mae’n arwain ni o Gymru, ar hyd llwybrau mynyddig y seintiau at furiau Rhufain. Mae’r caneuon yn son am lefydd, llefydd lle mae pethau yn digwydd - digwydd yn y presennol ac yn y gorffennol. 

Mae’r caneuon yn bersonol iawn yn son am golled, am gariad, am obaith a phrofiad rhyfel. Mae hefyd yn son am ddigwyddiad tywyll iawn yn Garnant ym 1921, digwyddiad wnaeth gyffwrdd a theulu Geraint. Caneuon roc pwerus a gonest sydd yma heb os.

Mae’r CD yn gorffen gyda fersiwn newydd iawn o Hen Wlad Fy Nhadau. Nid yn unig am ei bod yn gant a hanner o flynyddoedd ers iddi’i gael ei pherfformio gyntaf, ond am ei bod yn gan hyfryd sydd ddim yn cael ei chlywed yn ei chyfanrwydd yn ddigon aml. 

Cyhoeddir HAVANA ar label Diwedd Y Gwt, ac mae ar werth yn eich siop recordiau lleol a dros y rhyngrwyd. Cewch ragor o fanylion ar y safle we yma: 

www.geraintgriffiths.com 

COPA

Cefndir Gof Cwrt, Siop Star a Meddwl Am Hedy Lamarr

Hanes Cwrtycadno mewn cân.

Fu Cwrtycadno’n groesffordd bwysig ar yr hewl o Sir Aberteifi i farchnadoedd Lloegr yn y gorffennol. Dyma le fyddai’r porthmyn yn gorffwys yr anifeiliaid ar y ffordd i Smithfields. Roedd gof yma i bedoli’r creaduriaid a chyfle iddynt bori a thorri syched.  Fu’r teulu Jones yn cadw’r efail yn Cwrt a Nant Gwasanaeth am sawl cenhedlaeth. Ond ar ôl i’r rheilffordd gyrraedd daeth diwedd ar eu byd. Penderfynodd William Jones nad oedd am weithio yn efail ei dad, roedd ei fryd ar y dyfodol a'r byd mawr y tu allan i Gwrtycadno. Aeth William i weithio ar y rheilffordd. Mae ei hanes i’w glywed yn y gan Gof Cwrt ar HAVANA CD newydd Geraint Griffiths. William Jones yw hen dad-cu Geraint.

Diwrnod du yn hanes Garnant mewn cân.

Ym 1921 daeth dau dditectif o Scotland Yard i bentref Garnant yn Sir Gar i ymchwilio trosedd ddifrifol, ond er yr holl holi a chwilio ni chafwyd neb yn euog. Roedd Tomos Thomas o Langyndeyrn yn cadw’r Star Supply Stores yng nghanol y pentref. Un nos Sadwrn tra’r oedd e’n cyfrif arian yr wythnos daeth lleidr i’r siop i ddwyn yr arian a gadael Tomos yn farw. Roedd son fod rhywun yn America (neu Awstralia) wedi cyffesu ar ei wely angau, ond does dim sicrwydd o hyn. Mae’r stori yma i’w chlywed yn y gan Siop Star ar HAVANA, CD diweddaraf Geraint Griffiths. Roedd Tomos Thomas yn nai i hen dad-cu Geraint.

  Hedy Lamarr a’r dyn o Ddyffryn Afan.

 Roedd son fod Bryn Griffiths wedi ca’l rhyfel dda yn treulio’r blynyddoedd ola’ ar draethau’r Bahamas tra’n rhan o griw hyfforddi peilotiaid y Llu Awyr. Ond mae’r gwirionedd yn dra gwahanol. Roedd Bryn yn y Caribî ond roedd ei galon ‘nol yng Nghymru gyda’i wraig ifanc yn Nyffryn Afan. Mae stori Bryn i’w chlywed yn y gan Meddwl Am Hedy Lamarr ar HAVANA CD newydd Geraint Griffiths. Bryn Griffiths oedd tad Geraint.

COPA

| english | TWNDISH | cysylltiadau | diolchiadau | ebost | gadewch neges |

© geraint griffiths 2006