|
|
|||||||
Ganwyd
Geraint ym Mhontrhydyfen, yn Sir Forgannwg i deulu cerddorol Cymraeg.
Dros y blynyddoedd mae wedi byw yng Nghaerdydd a Llundain ond bellach
wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin. Mae wedi bod yn gerddor sesiwn ag
artist recordio ers 1973 ac yn aelod o sawl band fel lleisydd a gitarydd.
Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Ei
recordiadau cyntaf Cymraeg oedd fel cerddor sesiwn gyda Edward H Dafis,
Hergest ac ar recordiad o’r opera-roc Nia Ben Aur.
Ymunodd gyda chyn
aelodau Edward H, Sidan a’r canwr a chyfansoddwr Endaf Emlyn i ffurfio
Injaroc. Parodd y grŵp roc-ffwnc am flwyddyn a recordiwyd un record
hir, Halen Y Ddaear. Gyda chyn aelodau'r band roc Chwys,
ffurfiodd Geraint Eliffant. Geraint oedd y prif leisydd a’r unig
gyfansoddwr. Bu Eliffant gyda'i gilydd am saith mlynedd. Recordiwyd dwy
record hir, MOM a Gwin Y Gwan a dwy record
sengl. Ym 1984 dechreuodd Geraint ei yrfa fel unawdydd, recordiodd tair
record hir o’i ganeuon yn y cyfnod yma, sef Madras, Rebel
a Ararat. Hefyd, Geraint oedd un o dri unawdydd ar fersiwn
Gymraeg o’r "Young Messiah" sef Teilwng Yw’r Oen.
Mae CD o’r caneuon yn dal i fod yn boblogaidd; cyhoeddwyd y record hir
wreiddiol ym 1984. Mae catalog Cwmni Recordiau Sain yn ei ddisgrifio fel
"un o brif gantorion roc Cymru" gyda’i "lais
gwych". Roedd y rhan fwyaf o’i waith recordio, a phob un o’r
recordiau uchod ar label Sain. Fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol ym 1985 trwy recordio cyfres deledu chwe rhan, Nol Ar Y Stryd. Mae Geraint wedi cyflwyno rhaglenni plant poblogaidd ar S4C, yn enwedig Ffalabalam, Ty Chwith a Dicwm Dacwm. Bu’n actio mewn cyfresi drama fel Pobol Y Cwm, Pris y Farchnad a Darn O Dir, a ffilmiau teledu fel Y Cloc, Derfydd Aur , Fel Dail Ar Bren, Y Fargen a Dirgelwch Yr Ogof a'r gyfres i ddysgwyr, Talk About Welsh. Hefyd mae’n actor radio, wedi ymddangos mewn dramâu fel Ponty a Rhydeglwys ar Radio Cymru a A Small Country ar Radio 4. Ym 1992 sefydlodd Geraint label recordio Diwedd Y Gwt.
Y casgliad cyntaf ar Diwedd Y Gwt oedd y casét Donegal,
ac ym 1998 cyhoeddwyd y casgliad ar CD. Cyhoeddwyd Hewl
ym 1999, GLASTIR yn 2001, Miya-Jima yn 2005
a Clwb Dydd Sadwrn yn 2007.
Un o’i brif ddiddordebau ydy cynhyrchu recordiau ar gyfer bobol eraill
yn ogystal ag iddo’i hun, fel CD Dylan Davies - Y Daith
(2002), a CD Geraint Davies - Geraint Davies (2007). Havana (2007) yw'r CD diweddara o'i stiwdio yng Nghaerfyrddin.
| english | TWNDISH | cysylltiadau | diolchiadau | ebost | gadewch neges | © geraint griffiths 2006
|