|
LIMBOTROL
Band acwstig yn perfformio cymysgedd o ganeuon gwreiddiol a chaneuon bobl eraill oedd Limbotrol. Bu y band yn teithio dros Loegr ar Alban, tran byw yn Ne Llundain. Clybiau gwerin oedd eu prif lwyfan, a hynny rhwng 1972 a 1974. Er bod Island Records wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb, ni ryddhawyd yr un record gan y band, dim ond tapiau demo sydd mewn bodolaeth. Ym 1994 trodd y band i fod yn fand trydanol, a newydodd yr enw i Boots. Yn wreiddiol Art Damm o Texas fun drymio, daeth Charli Britton ir adwy pan aeth Art yn ol ir U.D. Bu Boots yn gigio yn Ne Llundain, ac eto, dim ond tapiau demo gaeth ei recordio. Mae Steve Dunachie wedi gweithio gyda band Polly Bolton, ewch YMA! BUTTY
Roedd Butty yn galw eu hun yn Anglo- Welsh Band, er eu bod yn canu yn Saesneg, a hynny am fod y gigs i gyd yn Ne Llundain, a bron I gyd yn yr Half Moon, Putney. Roedd y caneuon o waith Butty eu hun,ac o waith Robbie Robertson (The Band) yn bennaf. Daeth Pete Armitage I chwarae bas pan adawodd Bob I ddilyn ei yrfa fel meddyg. Roedd Charli hefyd yn chwarae gyda Edward H Dafis ar y pryd. Roedd Geraint yn chwarae gitar i EHD yn achlysurol ar lwyfan pan oedd en yn ymweld āi gartref. Roedd e hefyd yn recordio gyda nhw, ac mae yw glywed yn chwaraer gitār a chanu ar Hen Ffordd Gymreig, a Sneb Yn Becso Dam. INJAROC Tair gig ar ddeg yn unig welwyd Injaroc yn perfformio dros yr wyth mis fu y band mewn bodolaeth. Rhyddhawyd un record hir, Halen Y Ddaear. Yn y diwedd aeth Charli, Cleif, Hefin a John yn ōl i ail ffurfio Edward H, ac aeth Caryl a Sioned ymlaen I ddilyn gyrfaoedd fel unigolion. Bu Endaf a Geraint yn trafod ffurfio band, ond dim ond un rhaglen deledu welodd perfformiad gan y ddeuawd. Aeth Endaf ymlaen I ffurfio Jip, ac aeth Geraint nōl ir gorllewin gwyllt , a ffurfio Eliffant. ELIFFANT
Darllenwch "ELIFFANT- Stori Wir!" yma. Bu Eliffant gydau gilydd am bron i saith mlynedd, yn perfformio led led Cymru ar ddiwedd y saithdegau a dechrau yr wythdegau. Dymar adeg pan oedd y sīn roc Cymraeg yn ei anterth. Roedd y band yn perfformio caneuon roc gwreiddiol, ac yn cael eu ystyried fel band roc y don newydd, sef, New Wave Rock. Adeiladodd y band un or systemau sain mwya pwerus yn y sīn roc Cymreig ar y pryd, tua 2k! Roedd Eliffant yn hoffi chwarae yn UCHEL! Gydar aelodau uchod, recordiodd y band ddwy record hir, M.O.M. a Gwin Y Gwan ar label Sain,ag un sengl ar label M.A.C.Y.M., a honno yw chlywed ar juke boxes mewn caffis a thafarndau dros Gymru. Derbyniodd Eliffant dlws Sgrech fel y prif grwp roc, yn y bleidlais gynta ym 1979, yn ol darllenwyr y cylchgrawn. Ar ol i Colin Owen adael y band, ymunodd Gordon Jones fel drymwr, un oedd yn gallu canu hefyd! Recordiwyd un sengl gan y band, sef, Ti Ywr Unig Un I Mi / Tywyllwch. Dymar unig record a gyhoeddwyd ar label Llef, label personol Eliffant. Daeth gyrfa y band i ben ym 1984. Ers hynny maer aelodau wedi dilyn llwybrau cerddorol gwahanol, ond hefyd wedi cydweithio ar sawl prosiect. Ac yn wir, rhai blynyddoedd yn ol, tua deng mlynedd ar ol ir band chwalu, ail ffurfiwyd y band yn arbennig i berfformio yn ardal Llanarth a Felin Fach. Ers hynny mae Eliffant wedi aros yn dawel, ond o bryd yw gilydd daw sibrydion am atgyfodiad, mor belled, dim ond sibrydion ydynt!
Hefyd yn y llun mae Chris Winter oedd yn canur sacsoffōn, allweddellau, ac yn ychwanegu llais cefndir. Gwelir Toni Carroll a Linda Jenkins fun canu lleisiau cefndir yn gyson i Geraint ar record ac ar lwyfan. Sylwer fod Caryl Parry Jones hefyd yn y llun. Tynnwyd y llun yma gan Seimon Pugh Jones ar ōl cyngerdd yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin tua 86. Mae Geraint yn dal i weithio o bryd yw gilydd gydar unigolion yn y llun. Bandiau Ysgol.THE UNDECIDED. (Haf '65 ) a'r DREAM TIME PEOPLE
Darllenwch story yr UNDECIDED yng ngeiriau un o'r aelodau John Davies (yn Saesneg) YMA. Cliciwch ar y llun uchod am lun mawr or aelodau yn 2002. Ffurfiwyd y band yma ym mis Mai 1965 yng Nghwm Afan ger Port Talbot, Sir Morgannwg.
Roedd y perfformiad cyntaf yng Nghlwb Ieuenctid Pontrhydyfen ar Orffennaf 1af. Bu chwe gig
arall naill yn y clwb ym Mhontrhydyfen neu yn y Y.W.C.A. yng Ngwm Afan. Yn y gig cyntaf
roedd yn rhaid ir bas, gitār rhythm ar lleisiau fynd drwyr un amp!
Gwellodd y cyfarpar rhyw ychydig dros yr haf, ond ddim llawer. Hen ganeuon R&B a
chaneuon y Rolling Stones oedd y set wreiddiol, ond cyn hir cyflwynodd Geraint ganeuon y
Byrds a Donovan ir band. Daeth asiant adloniant o Aberafan i weld y band yn ymarfer
yn neuadd Aelwyd yr Urdd ym Mhwll Y Glaw, roedd diddordeb ganddo i gynnig gwaith ir
bechgyn, ond doedd hyn ddim i fod. Am y rhesymau traddodiadol syn bellach yn
ystrydeb, chwalodd y band, o achos gwahaniaethau cerddorol. Does yr un llun na
recordiad yn bodoli or cyfnod. Aeth John Davies, (nid yr un yn Eliffant), a Geraint
ymlaen i ddechrau band newydd. Math o glwb cerddorol oedd y band yma, clwb bore Sadwrn. Ni
ddewiswyd yr un enw ir band, ond cafodd The Dream Time People ei ystyried, chwe
degaidd iawn! Dyma hen lun ohonynt ar lethr mynydd Gyfylchi, ger Pontrhydyfen.
Maes o law ymunodd John Griffiths ar y bās. Caneuon y Byrds, Beatles ar Who oedd y ffefrynnau. Roedd y bechgyn yn dwli canu harmonļau, a bur Clwb Sadwrn yma yn baratoad gwych ar gyfer eu dyfodol cerddorol. Aeth Hefin Ellis (Elis nawr) a John Griffiths ymlaen i ffurfio Edward H. Dafis, a bur ddau wrth gwrs, gyda Geraint, yn aelodau o Injaroc.
© geraint griffiths 2006
|